Telerau ac amodau defnyddio
Mae'r Telerau a'r Amodau hyn yn nodi telerau’r contract y mae’r Cerdyn Archifau yn cael ei roi a’i ddefnyddio odanynt. Maent yn gymwys o Medi 2019 ymlaen.
1. Diffinio
Yn y Telerau a’r Amodau hyn:
ystyr “ARA” yw ARA Commercial Limited (rhif cwmni 8249971), sef rhoddwr y Cerdyn;
ystyr “Cerdyn” yw’r Cerdyn Archifau a roddir gan yr ARA yn unol â’r telerau a’r Amodau hyn;
ystyr “Deiliad Cerdyn” yw’r person sy’n dal Cerdyn dilys fel y’i rhoddwyd gan yr ARA ac a enwir arno;
ystyr “Archif sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun” yw unrhyw archif neu lyfrgell neu gasgliad sydd o dro i dro yn rhan o’r Cynllun ac yn cymryd rhan ynddo; ac
ystyr “Cynllun” yw cynllun y Cerdyn Archifau fel y’i gweithredir gan yr ARA sy’n caniatáu i Ddeiliaid Cerdyn gyrchu a defnyddio’r Archifau sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun
2. Y Cynllun
2.1 Mae’r Cerdyn yn cael ei roi am ddim i’r ymgeiswyr a gymeradwyir gan yr ARA ac nid yw'n drosglwyddadwy. Mae’n cael ei roi ar sail y Telerau a'r Amodau hyn, fel y'u diwygir o dro i dro. Rhaid argraffu enw Deiliad y Cerdyn yn glir ar y stribed llofnod ar gefn y Cerdyn er mwyn i’r Cerdyn fod yn ddilys. Bydd y Cerdyn yn caniatáu i Ddeiliad y Cerdyn gael mynediad at yr Archifau sy'n Cymryd Rhan yn y Cynllun yn ystod yr oriau agor y maen nhw’n penderfynu arnynt.
2.2 Wrth wneud cais, rhaid i ymgeiswyr am Gardiau roi prawf adnabod i’r ARA yn unol â gofynion yr ARA a ffotograff pasbort o’r ymgeisydd i’w storio a’i ddefnyddio mewn cysylltiad â’r Cynllun.
2.3 Bydd y Cerdyn yn ddilys am bum mlynedd o’r dyddiad y caiff ei roi a gall Deiliad y Cerdyn wneud cais i’w adnewyddu ar ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd drwy roi unrhyw wybodaeth y mae’r ARA yn gofyn amdani y pryd hwnnw.
3. Y Cerdyn
3.1 Bydd y Cerdyn yn parhau'n eiddo i’r ARA bob amser a rhaid ei ildio os gofynnir amdano.
3.2 Rhaid i Ddeiliaid Cerdyn gymryd pob gofal rhesymol i osgoi colli neu ddifrodi eu Cerdyn a rhaid hysbysu'r ARA os caiff y Cerdyn sydd ganddynt ei golli neu ei ddwyn. Rhaid i Ddeiliaid Cerdyn beidio ag ildio meddiant eu Cerdyn i drydydd partïon na chaniatáu i neb arall ddefnyddio’r Cerdyn at unrhyw ddiben.
3.3 Bydd gan yr ARA hawl i ganslo unrhyw Gerdyn a therfynu hawl y Deiliad Cerdyn perthnasol i ddefnyddio'r Cerdyn ar unwaith os bydd yn torri unrhyw un neu ragor o'r telerau defnyddio. Bydd y Cerdyn yn peidio â chael effaith ar unwaith os bydd y deiliad yn marw.
3.4 Mae’r ARA yn cadw’r hawl i godi tâl am roi Cerdyn newydd os bydd Deiliad y Cerdyn yn gofyn am un newydd.
4. Defnyddio’r Archifau sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun
4.1 Dylai Deiliaid Cerdyn wirio amserau agor unrhyw Archif sy'n Cymryd Rhan yn y Cynllun cyn ymweld â hi a gwirio unrhyw ofynion eraill ynglŷn â mynediad i gasgliad neu gasgliadau penodol, megis trefnu ymlaen llaw. Nid yw’r ARA yn gwneud dim gwarant neu ymrwymiad y bydd unrhyw Archif sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun yn agored i'r cyhoedd ar unrhyw ddyddiad penodol fel rhan o'r Cynllun neu y bydd casgliad penodol ar gael ar gyfer ymchwil.
4.2 Rhaid i Ddeiliaid Cerdyn ddangos eu Cerdyn pan ofynnir amdano wrth ddefnyddio neu ymweld ag Archif sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun a darparu unrhyw dystiolaeth arall i ddangos pwy ydyn nhw os gofynnir amdani. Bydd yn ofynnol hefyd iddynt gydymffurfio ag unrhyw drefn llofnodi i mewn a ddefnyddir neu y gofynnir amdani gan unrhyw Archif sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun. Os na wneir hyn, gwrthodir mynediad i’r Deiliad Cerdyn i’r Archif o dan sylw.
4.3 Tra byddant mewn unrhyw Archif sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun, rhaid i Ddeiliaid Cerdyn barchu unrhyw reolau neu ofynion ynghylch defnyddio'r fangre, ymddygiad yn yr ystafell ymchwilio, ffotograffiaeth neu fathau eraill o gopïo a rhaid iddynt beidio â symud na niweidio unrhyw eiddo sy'n perthyn iddi. Ni fydd yr ARA yn atebol nac yn gyfrifol am unrhyw weithred neu ddiffyg gweithred ar ran Archif sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun nac am unrhyw golled neu anaf a ddioddefir gan Ddeiliad Cerdyn wrth ddefnyddio unrhyw Archif sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun. Gall fod yn ofynnol i Ddeiliaid Cerdyn ildio’u Cerdyn i aelod o staff yr Archif sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun tra byddant yno.
4.4 Nid yw’r Cerdyn yn eithrio Deiliad y Cerdyn o unrhyw daliadau sy’n cael eu codi gan Archif sy’n Cymryd Rhan yn y Cynllun am unrhyw wasanaethau neu eitemau a ddarperir.
5. Data Personol
5.1 Bydd yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir gan Ddeiliad Cerdyn neu a sicrheir gan yr ARA o unrhyw ffynhonnell yn cael ei defnyddio gan yr ARA mewn cysylltiad â hyrwyddo, gweinyddu a gweithredu'r Cynllun.
5.2 Gofynnir i Ddeiliaid Cerdyn ddarllen
hysbysiad preifatrwydd yr ARA ynghylch y Cynllun yn ofalus.
6. Cyffredinol
6.1 Ni fydd yr ARA o dan unrhyw rwymedigaeth tuag at unrhyw Ddeiliad Cerdyn sy'n deillio o'r Telerau a'r Amodau hyn neu sy'n ymwneud â sut mae’n defnyddio’i Gerdyn, sy'n rhad ac am ddim, ac eithrio nad yw’r ARA drwy hyn yn cyfyngu ei atebolrwydd dros farwolaeth neu anaf personol a achosir drwy esgeulustod yr ARA.
6.2 Llywodraethir y Telerau a’r Amodau hyn gan Gyfraith Cymru a Lloegr, a llysoedd Cymru a Lloegr yn unig fydd ag awdurdodaeth at yr holl ddibenion sy’n gysylltiedig â nhw.
6.3 Ni fwriedir i unrhyw drydydd partïon heblaw’r ARA a Deiliaid Cerdyn gael unrhyw hawliau i ddibynnu ar unrhyw un neu ragor o’r Telerau a’r Amodau hyn na hawliau i’w gorfodi.
6.4 Gall y Telerau a’r Amodau hyn gael eu hamrywio neu eu diwygio o dro i dro gan yr ARA a bydd unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau yn cael eu hysbysu i Ddeiliaid Cerdyn drwy gyfathrebu’n uniongyrchol neu drwy hysbysiad
ar wefan yr ARA.